Pwyllgor yr Economi, Trafnidiaeth a Materion Gwledig

Bil Bwyd (Cymru)

Papur gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Crynodeb

1.    Mae Llywodraeth Cymru'n gwrthwynebu Bil Bwyd (Cymru) (‘y Bil’) ar y sail ei fod yn ddiangen, ac y byddai’n creu biwrocratiaeth a chost i nifer o gyrff cyhoeddus. Yn fwyaf arwyddocaol byddai'n tanseilio'r fframwaith deddfwriaethol a llywodraethu a sefydlwyd eisoes ar gyfer cynllunio strategol, llunio polisi a gweithredu hirdymor, a roddwyd ar waith gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (y cyfeirir ati fel Deddf WFG wedi hyn).

Egwyddorion cyffredinol Bil Bwyd (Cymru) a'r angen am ddeddfwriaeth i gyflawni bwriad y polisi a nodir

 

2.    Amcan polisi arfaethedig y Bil[1] yw ‘darparu fframwaith sy’n galluogi dull trawslywodraethol sy’n gydlynol, yn gyson ac yn strategol ar gyfer ymdrin â pholisi ac arfer ar bob agwedd ar y system fwyd’.

 

3.    Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi mai diben y Bil yw:

 

sefydlu system fwyd fwy cynaliadwy yng Nghymru. Mae hyn yn golygu cryfhau ein diogeledd bwyd drwy gadwyn gyflenwi gydnerth, cefnogi datblygiad ein diwydiant bwyd, gwella llesiant economaidd-gymdeithasol Cymru a chynyddu dewis defnyddwyr. Bydd ystyriaethau amgylcheddol hefyd yn ganolog i’r system fwyd y mae'r Bil yn ceisio ei sefydlu, megis: diogelu ac adfer natur; mynd i'r afael ag effeithiau newid hinsawdd a’u lliniaru; a lleihau ôl troed amgylcheddol byd-eang Cymru.’ [2]

 

4.    Yn allweddol i'r cwestiwn a oes achos dros Fil, nid yw'r Memorandwm Esboniadol nac unrhyw dystiolaeth arall a gyflwynwyd i gefnogi'r Bil wedi dangos yn argyhoeddiadol fod unrhyw anghysondeb sylweddol neu ddiffyg cydlyniaeth, neu fethiant i weithio ar draws Llywodraeth Cymru neu’r tu hwnt, wrth greu neu gyflawni polisïau sy'n gysylltiedig â bwyd. Mae’n destun pryder bod y Memorandwm Esboniadol yn gwneud datganiadau di-sail, er enghraifft:

 

‘Nid yw polisi presennol Llywodraeth Cymru o ran bwyd yn gydgysylltiedig, sy’n arwain at anghydlyniaeth polisi a chanlyniadau anfwriadol’[3] a hefyd

‘mae polisi bwyd yn cael ei ystyried yn rhy aml mewn cyd-destunau penodol, gydag adrannau Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu dulliau gwahanol o ymdrin â pholisi bwyd, sy’n arwain at nodau polisi sy’n mynd yn groes i’w gilydd.[4].

 

5.    Ymddengys fod y datganiadau hyn yn dibynnu'n helaeth ar honiadau gan nifer fach o randdeiliaid a ddyfynnir yn y Memorandwm Esboniadol sy'n cynnig rhai enghreifftiau byr, dryslyd ac anghywir[5], megis awgrymu bod nod strategol Llywodraeth Cymru i ddatblygu'r diwydiant gweithgynhyrchu bwyd a diod yn groes i bolisi i ddatblygu amaethyddiaeth gynaliadwy, neu honni bod cyfle a gollwyd i ddatblygu gwerthiant cynhyrchion bwyd a diod iach (cydgysylltu polisi diwydiannol â Pwysau Iach: Cymru Iach) pan fo targed eisoes i gefnogi ailfformiwleiddio 25 cynnyrch y flwyddyn drwy gymorth Arloesi Bwyd Cymru er mwyn mynd i’r afael â’r union gydgysylltiad polisi hwn.

 

6.    Mae'r Memorandwm Esboniadol yn cyfeirio at diffyg gwaith craffu cyffredinol ar bolisïau sy'n gysylltiedig â'r system fwyd ehangach yng Nghymru’[6] ond mae'n methu ag ystyried y rôl y gall y Senedd ei chwarae wrth graffu ar Lywodraeth Cymru, ac y mae’r Senedd yn ei wneud o ran hynny. Felly nid yw'n gweld nac archwilio cryfder yr ymchwiliad y gellir ei roi ar waith eisoes ar faterion bwyd.

 

7.    Rydym yn nodi bod 63% o'r ymatebwyr i'r ymgynghoriad ar y Bil yn credu nad yw polisïau sy'n gysylltiedig â bwyd yn ddigon cydgysylltiedig ac nid oedd unrhyw ymatebwyr yn credu eu bod yn ddigon cydgysylltiedig[7]. Mae hwn yn ganfyddiad trawiadol a, hyd yn oed os yw'r ymatebion, fwy na tebyg, wedi'u gwyro tuag at ymatebwyr sy'n awyddus i newid y system fwyd neu feirniadu'r polisi cyfredol, nid ydym yn diystyru'r neges glir hon. Mae'n haeddu ystyriaeth pam mae'r ymatebwyr yn credu hyn. Mae'n siomedig nad yw wedi cael ei archwilio yn dilyn yr ymgynghoriad nac yn y Memorandwm Esboniadol. Mae'n bosibl y gallai'r rheswm sylfaenol dros y farn hon fod yn fethiant i gyfleu'r polisi cysylltiadau yn glir yn hytrach na bod y polisïau eu hunain ddim yn glir neu'n gydlynol, a byddai hynny'n wahaniaeth hanfodol. Os yw hynny'n wir, ymateb priodol fyddai ystyried sut mae newid y gwaith cyfathrebu polisi, nid gwneud cyfraith ychwanegol. Mae’n siomedig fod y Memorandwm Esboniadol yn methu ag archwilio unrhyw opsiwn heblaw ‘gwneud dim’ neu ddeddfu. Nid oes unrhyw awgrymiadau o ran sut i wella cydlyniaeth polisi gan ddefnyddio'r fframwaith deddfwriaethol presennol, a gwaith sefydliadau presennol, ond yn hytrach mae'n neidio i’r casgliad mai deddfwriaeth newydd yw'r ateb.

 

8.    Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno'n gryf y dylai polisi fod yn gydlynol, yn gyson ac yn strategol, gyda dull trawslywodraethol sy’n ymestyn ar draws Llywodraeth Cymru a thu hwnt. Ein barn ni yw bod hyn eisoes yn wir gyda chyfres gynhwysfawr o bolisïau sy'n gysylltiedig â bwyd yn eu lle sy’n adeiladu ar hanes blaenorol hirdymor. I grynhoi, ac ar ffurf symlach, wedi'i osod yn erbyn nodau bwyd eilaidd y Bil, mae detholiad isod o bolisïau perthnasol sydd gennym ar waith neu sydd wrthi’n cael eu datblygu:

Gweledigaeth Strategol ar gyfer y diwydiant gweithgynhyrchu a phrosesu bwyd a diod

Llesiant economaidd (ond mewn ffyrdd sy'n ystyried nodau llesiant eraill.)

 

Pwysau Iach, Cymru Iach

Cychwyn Iach

 

Prydau Ysgol am ddim i blant Ysgolion Cynradd

Bocs Bwyd Mawr

Strategaeth Tlodi Plant

Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus

Iechyd a chymdeithasol

 

Cwricwlwm i Gymru

Addysg

 

Bil Amaethyddiaeth (Cymru) a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Yr amgylchedd a llesiant economaidd

 

Mwy nag ailgylchu

Gwastraff bwyd

 

Strategaeth Bwyd Cymunedol

Y potensial ar gyfer pob nod i ryw raddau.

 

9.    Mae'r Bil yn debyg iawn i Ddeddf Cenedl Bwyd Da (Yr Alban) 2022 o ran cwmpas a dull gweithredu. Mae cynigion yr Alban yn ymwneud yn benodol â bwyd ac felly'n gwneud hynny'n amlwg, ond eu heffaith ymarferol yw creu'r hyn sydd yn fras eisoes yn bodoli yn y gyfraith yng Nghymru diolch i Ddeddf WFG.

 

10. Mae'r Memorandwm Esboniadol yn honni bod y Bil wedi'i ddrafftio i fod yn gyson â Deddf WFG[8], ac y bydd yn helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf WFG[9]. Yr hyn mae'r Bil yn ei esgeuluso yw bod Cymru eisoes wedi deddfu i wella llesiant y wlad drwy greu Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol gyda phwerau deddfu i gynghori a chynorthwyo cyrff cyhoeddus a thrwy osod dyletswyddau ar gyrff cyhoeddus i weithio tuag at saith nod llesiant a gweithredu yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy. Mae Deddf WFG yn cryfhau trefniadau llywodraethu presennol ar gyfer gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol, a diwylliannol Cymru. Amcan y nodau llesiant yw adeiladu Cymru sy'n fwy cyfartal, llewyrchus, iachach, cydnerth, ac yn gyfrifol ar lefel fyd-eang gyda chymunedau mwy cydlynus â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.  Er nad yw bwyd yn cael ei grybwyll yn benodol mae gorgyffwrdd amlwg rhyngddynt a'r nodau bwyd eilaidd, yn enwedig o ran y nodau ar gyfer Cymru lewyrchus, Cymru gydnerth a Chymru iachach. Mae Deddf WFG yn gwneud darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus wneud pethau er mwyn ymgyrraedd at lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru mewn modd sy'n cyd-fynd â'r egwyddor datblygu cynaliadwy. Mae hefyd yn darparu ar gyfer cyfres o ddangosyddion llesiant cenedlaethol[10](x50) a cherrig milltir[11] (x8). Mae hefyd yn rhoi Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar sail statudol.  Ac er mwyn pwysleisio, mae gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol eisoes y pwerau statudol i gynghori, cynorthwyo, adolygu a gwneud argymhellion i gyrff cyhoeddus, mewn perthynas â'r nodau llesiant. 

 

11. Ar y cyd mae'r trefniadau hyn sy’n bodoli yn darparu'r holl fecanweithiau ar gyfer llunio polisi cydgysylltiedig, hirdymor ar faterion cymhleth, gan wneud y Bil yn ddiangen sy’n dyblygu gwaith, yn gwastraffu adnoddau ac yn gorgyffwrdd drwy'r dyletswyddau i osod targedau a gwneud cynlluniau. Ond, o bosibl yr hyn sydd o arwyddocâd mawr iawn yw y gallai’r Bil danseilio'r systemau llywodraethu a'r egwyddorion cyffredinol a sefydlwyd gan Ddeddf WFG, drwy greu cynsail deddfu ar un mater.

 

Nodau a thargedau bwyd

 

12. Nid yw'n glir pam fod y Bil wedi gosod nod sylfaenol a nodau eilaidd neu beth yw'r berthynas rhyngddynt yn union. Nid yw’r Memorandwm Esboniadol yn dweud dim mwy na bod y nod sylfaenol yn ‘nod cyffredinol’[12]. Mae’n destun pryder penodol i Lywodraeth Cymru bod ‘fforddiadwy’ wedi’i gynnwys yn y nod sylfaenol,[13] gan fod potensial ar gyfer dehongliad eang iawn, a allai, er enghraifft, olygu darparu bwyd â chymhorthdal neu fwyd am ddim yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan gyrff cyhoeddus, neu ymyrraeth yn y farchnad i gael effaith ar fanwerthu bwyd neu weithgareddau elusennol.

 

13. Fel y cyfeiriwyd ato’n barod, mae Llywodraeth Cymru eisoes yn mynd ar drywydd polisïau amrywiol sy'n berthnasol i gyflawni'r nodau eilaidd. Mae gan y polisïau hyn dargedau a dangosyddion penodol, neu maent yn ymrwymo i’w creu. Dyma rai enghreifftiau:

 

a.    sicrhau llesiant economaidd drwy hyrwyddo Gweledigaeth Strategol hirdymor ar gyfer y diwydiant gweithgynhyrchu a phrosesu bwyd a diod. Mae rhaglenni cymorth drwy'r strategaeth hon yn helpu busnesau i ffynnu ar draws Cymru, drwy ychwanegu gwerth, hyrwyddo ein cynnyrch, cyflogi pobl a chreu ffyniant.

b.    canolbwyntio ar agweddau iechyd a chymdeithasol o ran bwyd, er enghraifft Pwysau Iach, Cymru Iach, ac ymestyn ein cymorth i fentrau cymunedol sy'n darparu bwyd hygyrch a fforddiadwy fel Bocs Bwyd Mawr.

c.    Ar ddechrau’r Bil Amaethyddiaeth[14] mae’r amcan rheoli tir yn gynaliadwy sy'n cynnwys cynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy.

d.    Mae’r Strategaeth Mwy nag Ailgylchuyn ymrwymo i ddileu'r holl wastraff bwyd y gellir ei osgoi drwy weithio gyda busnesau ar draws y gadwyn gyflenwi gyfan, er mwyn cyfyngu ar wastraff bwyd ym mhob lleoliad. Mae’r Strategaeth yn gosod targed i haneru gwastraff bwyd y gellir ei osgoi erbyn 2025, a’i leihau 60% erbyn 2030.

 

14. O ganlyniad, effaith ymarferol y Bil fyddai creu system ddyblyg o gynllunio, gosod targedau ac adrodd na fyddai'n sicrhau unrhyw effaith na budd ychwanegol ynddo'i hun.  

 

Comisiwn Bwyd Cymru

 

15. Byddai gan Gomisiwn Bwyd Cymru yr amcan[15] o hyrwyddo nodau bwyd a chyflawni’r targedau. Byddai creu'r Comisiwn yn ddatblygiad cwbl newydd, nad yw mewn unrhyw bolisi cyfredol nac arfaethedig gan Lywodraeth Cymru.

 

16. Mae Llywodraeth Cymru yn pryderu am y gost o sefydlu a chynnal y Comisiwn, a fyddai'n dargyfeirio adnoddau flwyddyn ar ôl blwyddyn heb unrhyw fudd amlwg. Rydym hefyd yn pryderu am swyddogaethau arfaethedig y Comisiwn i gynghori, hysbysu a chynorthwyo[16],yn enwedig y swyddogaeth i hysbysu a chynghori'r cyhoedd[17]. Mae'r swyddogaethau arfaethedig hyn yn gorgyffwrdd yn aneglur â swyddogaethau'r Asiantaeth Safonau Bwyd[18]. Mae’n bosibl y gallai'r diffyg eglurder hwn achosi dryswch, cymhlethu’r cyfathrebu, ac o ganlyniad, o ystyried y risg cynhenid mewn materion bwyd o ran y penderfyniadau mae busnesau, rhanddeiliaid ac aelodau o'r cyhoedd yn eu gwneud, mae'n destun pryder.

 

17. Mae hefyd yn debygol y bydd swyddogaethau arfaethedig y Comisiwn i gynghori a chynorthwyo cyrff cyhoeddus yn gorgyffwrdd â swyddogaethau Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i gynghori a chynorthwyo cyrff cyhoeddus ar gyflawni'r nodau llesiant o ystyried bod y nodau bwyd yn rhan gynhenid o fewn cwmpas nodau llesiant Deddf WFG. Mae hyn yn bwysig oherwydd y gallai effeithio ar sut mae cyrff cyhoeddus yn cyflawni eu swyddogaethau.

 

Strategaeth fwyd genedlaethol a chynlluniau bwyd lleol

 

18.Mae'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi strategaeth fwyd genedlaethol sy'n nodi'r strategaeth gyffredinol a'r polisïau unigol y maent yn bwriadu eu dilyn er mwyn hyrwyddo’r nodau bwyd sylfaenol ac eilaidd a chyrraedd y targedau bwyd. Mae Llywodraeth Cymru'n gweld hyn yn ddiangen o ystyried bod set cynhwysfawr eisoes o bolisïau a chynlluniau yn eu lle ar gyfer materion sy'n ymwneud â bwyd. Lle mae bylchau, rydym yn cymryd camau i fynd i'r afael â hwy, fel yr ymrwymiad i ddatblygu Strategaeth Fwyd Gymunedol. Egwyddor trefnu sylfaenol yr holl waith hwn yw Deddf WFG, ac mae gwaith datblygu polisi sy’n cynnwys rhanddeiliaid, ynghyd â chyd-gynhyrchu polisi a chyflawni yn nodwedd gref ohoni.

 

19. Mae'r ddyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynhyrchu cynlluniau bwyd lleol o bosibl yn dyblygu'r hyn y gellir ei wneud drwy'r gofyniad i gynhyrchu cynlluniau llesiant lleol sy'n ffocws ar gyfer Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (PSBs) dan arweiniad yr awdurdodau lleol a sefydlwyd o dan Ddeddf WFG. Mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn diwygio eu cynlluniau cychwynnol ac mae cyfle i gynyddu eu ffocws ar faterion bwyd.

 

Materion cyffredinol gan gynnwys ystyr termau, rheoliadau, dehongli, a chychwyn

 

20. Mae’r Bil yn pennu amserlenni hynod heriol sydd â risg uchel o fethu neu, er mwyn cyrraedd yr amserlenni byddant yn arwain at allbynnau arwynebol ac is-optimaidd, ac o ganlyniad i hynny yn effeithio ar y defnydd o adnoddau a’r canlyniadau.

 

21. Mae'r gofyniad i sefydlu'r Comisiwn, sy’n barod i gyflawni dyletswyddau cyfreithiol o fewn 3 mis i’r Cydsyniad Brenhinol yn afrealistig. Mae'r profiad o sefydlu swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn gymhariaeth. Cafodd Deddf WFG y Cydsyniad Brenhinol ym mis Ebrill 2015, gyda swyddfa'r Comisiynydd yn dechrau drwy orchymyn cychwyn a ddaeth i rym ar 1 Chwefror 2016, sef cyfnod o oddeutu 10 mis, ond yn arwyddocaol am ei fod yn bolisi gan Lywodraeth Cymru, roedd yn fater y gwnaed cryn waith paratoi ar ei gyfer hefyd o flaen llaw.

 

22. Byddai'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus gyflawni nifer o ddyletswyddau cysylltiedig o fewn dwy flynedd i gychwyn gosod targedau ar gyfer y nodau eilaidd (eu hunain i gael eu cymeradwyo gan y Senedd o dan y weithdrefn gadarnhaol), i gyhoeddi strategaeth fwyd genedlaethol a gwneud cynlluniau bwyd lleol. Byddai'n ofynnol i Lywodraeth Cymru ymgynghori â'r Comisiwn wrth wneud y strategaeth a gosod y targedau, sydd eto o ystyried yr amserlen afrealistig a osodwyd ar gyfer sefydlu'r Comisiwn, y cymhlethdod sydd ynghudd yn y nodau bwyd, a'r tebygolrwydd neu'r buddioldeb o ymgynghori'n eang ar gynigion, y mae'n debygol y byddai hyn yn cymryd cryn amser i'w gyflawni. O ganlyniad, prin iawn fyddai’r amser ar ôl o fewn y cyfnod o ddwy flynedd a ganiateir i gyrff cyhoeddus ystyried y targedau a'r strategaeth fwyd genedlaethol iddyn nhw ddatblygu cynlluniau bwyd lleol. At hynny, mae'n debygol y bydd cyrff cyhoeddus yn dymuno ymgynghori â'r Comisiwn, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, ac efallai personau eraill, o ystyried y cyfeiriad y mae'r Bil yn ei ddarparu i wneud hynny[19]. Os ydynt yn gwneud mewn niferoedd sylweddol, bydd yn creu her o ran capasiti i'r Comisiwn a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, sy'n ffactor arall sy'n debygol o filwrio yn erbyn cynlluniau sydd ag unrhyw ansawdd neu werth.

 

 

 

 

Unrhyw rwystrau posibl i weithredu darpariaethau'r Bil ac a yw'r Bil yn ystyried y rhain

 

23. Mae'r amserlenni a bennir gan y Bil yn peri risgiau o ran cyflawni'r dyletswyddau a osodwyd oherwydd eu bod yn rhy dynn. O ganlyniad, gall cyrff cyhoeddus fethu â chyflawni eu dyletswyddau neu byddant yn gwneud hynny'n arwynebol.

 

24. Nid yw'r Bil yn darparu unrhyw ddulliau o newid amserlenni er mwyn cynnig hyblygrwydd i ystyried amgylchiadau sy'n newid neu addasu yn sgil profiad.

 

25. Gallai'r diffyg eglurder ynghylch swyddogaethau a allai orgyffwrdd rhwng y Comisiwn, yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, ac eraill efallai, greu rhwystrau posibl ac efallai risgiau. Mae'r ddyletswydd a osodir ar gyrff cyhoeddus i gyflawni swyddogaethau sy'n gysylltiedig â'r nodau a'r targedau bwyd, ac i roi sylw i'w cynlluniau bwyd lleol, heb ei brofi, ac o ystyried amrywiaeth swyddogaethau cyrff cyhoeddus, gallai fod yn brofiad cymhleth a dwys o ran adnoddau mewn ffyrdd na ragwelir.

 

26. Nid yw'n glir beth yw'r gwahaniaeth ymarferol rhwng adroddiad sy'n asesu effeithiolrwydd y strategaeth fwyd genedlaethol[20]  a'r adolygiad o'r un strategaeth[21]. Fel y nodwyd eisoes, mae'r gwahaniaeth a'r berthynas rhwng y nodau sylfaenol ac eilaidd yn aneglur.

 

27. Mae pwyntiau a wnaed eisoes ynglŷn â sut y byddai'r Bil yn gweithredu mewn perthynas â Deddf WFG hefyd yn rhwystrau posibl i'w weithredu.

 

Priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir ym Mhennod 6 o Ran 1 y Memorandwm Esboniadol)

 

28. Mae'r pwerau arfaethedig yn ymddangos yn briodol ac eithrio nad ydynt yn cynnwys unrhyw hyblygrwydd i ddiwygio'r amserlenni a osodir gan y Bil, sy'n risg a allai fod yn ddifrifol o ran gweithredu’r Bil a sut y bydd cyrff cyhoeddus yn cyflawni eu dyletswyddau.

 

P’un a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o'r Bil

 

29. Mae canlyniadau sylweddol ac o bosibl difrifol i'r fframwaith llywodraethu ar gyfer gwaith llunio polisïau hirdymor gan gyrff cyhoeddus a sefydlwyd gan Ddeddf WFG (fel y'u disgrifiwyd eisoes).

 

30. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod ac yn rhannu pryder am agweddau ar y system fwyd sydd wedi ysgogi cynnig y Bil. Fodd bynnag, mae'r Bil yn debygol o arwain at greu biwrocratiaeth, dyblygu, dryswch o ran rolau gyda'r risg sy'n deillio o ganlyniad i hynny a gwastraffu adnoddau.

 

 

 

Goblygiadau ariannol y Bil (fel y nodir yn Rhan 2 o'r Memorandwm Esboniadol)

 

31.Mae'r Memorandwm Esboniadol yn cyflwyno amcangyfrifon cost sy’n geidwadol iawn, rhwng £4,729,250 a £8,584,370[22]. Costau newydd a chylchol yw'r rhain.

 

32. Mae'n ymddangos bod y cyfrifiadau technegol i greu’r amcangyfrifon cost yn gywir yn fras ond maent yn seiliedig ar ragdybiaethau mawr am faint o waith y byddai'r Bil yn ei greu. Mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi[23]nad yw'n bosibl amcangyfrif adnodd cyfredol Llywodraeth Cymru ar faterion sy'n ymwneud â bwyd, a fydd rhai na fydd eu hangen mwyach, neu a allai fod arbedion o ran amser swyddogion sy'n deillio o well cysylltiad a gweithrediad gwell polisi bwyd. Yn fras, mae Llywodraeth Cymru yn cytuno â'r casgliad hwnnw oherwydd bod gan sawl rôl swyddog ryw gysylltiad â'r ystod amrywiol o faterion o fewn cwmpas y Bil ac, mewn sawl achos, gallai fod yn rhan o rôl swyddog yn unig yn hytrach na rôl lawn amser. Fodd bynnag, nid yw Llywodraeth Cymru wedi nodi dim yn y Bil na'r Memorandwm Esboniadol i awgrymu y byddai'n arbed gwaith. Mae'n debygol y byddai angen i'r holl weithgareddau presennol sy'n gysylltiedig â bwyd o fewn Llywodraeth Cymru barhau, a byddai'r Bil ond yn peri gwaith ychwanegol sy’n mynnu mwy o adnoddau i'w cyflawni. Rydym yn rhag-weld y byddai'r sefyllfa yr un peth mewn cyrff cyhoeddus eraill sy'n ddarostyngedig i ddyletswyddau o dan y Bil.

 

33.  Mae yna elfennau o'r goblygiadau ariannol sydd, yn ôl pob tebyg, yn dan-amcangyfrifon sylweddol. Mae'r Bil yn amcangyfrif y byddai'n cymryd dau swyddog sy’n treulio 20% o'u hamser i gyflawni'r holl swyddogaethau newydd y byddai'r Bil yn eu gosod ar Lywodraeth Cymru yn ystod ei ddwy flynedd gyntaf, sef cyfanswm o oddeutu £42k[24]. Rydym yn deall bod yr amcangyfrif hwn wedi'i wneud drwy fabwysiadu amcangyfrif Llywodraeth yr Alban ei hun ar gyfer Deddf Cenedl Bwyd Da. Mae'r dull hwn yn rhesymegol ac eithrio ein bod yn deall bod y profiad cyfredol yn yr Alban wrth ddechrau cychwyn eu Deddf yn profi i fod yn sylweddol fwy dwys o ran adnoddau. Mae'r materion polisi sy'n berthnasol i'r targedau a'r cynllun bwyd cenedlaethol yn gymhleth a bydd gwaith gweinyddol sylweddol i ddylunio a sefydlu Comisiwn Bwyd Cymru. Ar ben hynny, nid oes unrhyw gyfrif yn cael ei wneud o'r adnodd cyfreithiol a fydd ei angen hefyd i baratoi'r hyn sy'n debygol o fod yn rheoliadau hir a chymhleth ar gyfer y targedau. Ar y cyd, byddem yn rhag-weld bod yr angen gwirioneddol am adnoddau yn debygol o fod sawl gwaith yr hyn a ragwelwyd ac y byddai angen tîm bach ond llawn amser i'w gyflawni.

 

34. Amcangyfrifir bod y gost ychwanegol i Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn £21k y flwyddyn[25]ond rydym yn rhag-weld ei bod yn debygol y bydd y rhan fwyaf o gyrff cyhoeddus yn ymgynghori â'r Comisiynydd wrth wneud eu cynlluniau lleol, ac y gallai'r galw ar amser y Comisiynydd fod yn sylweddol. Byddai hyn naill ai ar draul gwaith arall neu mae’n bosibl y byddai angen adnodd ychwanegol sylweddol.

Lesley Griffiths AS

Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

16 Chwefror 2023



[1] Memorandwm Esboniadol, paragraff 8.

[2] Ibid paragraff 9.

[3] Ibid paragraff 17.

[4] Ibid paragraff 18.

[5] Ibid paragraff 26.

[6] Ibid paragraff 18.

[7] Ibid paragraff 25.

[8] Memorandwm Esboniadol, paragraff 148.

[9] Memorandwm Esboniadol, paragraff 14.

[10] Llesiant cenedlaethau'r dyfodol: dangosyddion cenedlaethol a cherrig milltir ar gyfer Cymru 2021 | LLYW.CYMRU

[11] Mae Llywodraeth Cymru’n ymgynghori ar hyn o bryd ar ail gyfres o gerrig milltir cenedlaethol. Cerrig milltir cenedlaethol pellach i fesur cynnydd ein cenedl | LLYW.CYMRU

[12] Ibid paragraffau 192 a 196.

[13] Y Bil adran 2.

[14] Y Bil Amaethyddiaeth, adran 1.

[15] Y Bil adran 9

[16] Y Bil adran 10

[17] Y Bil adran 10(c)

[18] Deddf Safonau Bwyd 1999

[19] Y Bil adran 18

[20] Y Bil adran 15

[21] Y Bil adran 16

[22] Memorandwm Esboniadol paragraff 325, tabl 3.

[23] Memorandwm Esboniadol paragraff 325, tabl 4 ‘arbedion costau’ (t72).

[24] Memorandwm Esboniadol paragraff 325, tabl 4.

[25] Memorandwm Esboniadol paragraff 418.